Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddCydraddoldeb 
 0300 200 6565 
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddEquality@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddEquality 
 0300 200 6565 
 Y Pwyllgor Cydraddoldeb 
 a Chyfiawnder Cymdeithasol
 —
 Equality and Social Justice 
 Committee

 

 

 

31 Mawrth 2022

Annwyl gyfaill,

Ymgynghoriad - Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: Merched Mudol

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn y Senedd yn cynnal ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Fel rhan o'i ystyriaeth gychwynnol, ac i gydnabod ehangder y pwnc, cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth ford gron gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio ei ddull gweithredu.

Amlygodd y drafodaeth y ffaith bod menywod mudol yn grŵp allweddol a esgeulusir, sef grŵp nad yw ei anghenion yn cael eu diwallu yn iawn ar hyn o bryd ac sy’n debygol o gael profiad o drais mewn ffordd wahanol i ferched a menywod eraill. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad cychwynnol, byr gan ganolbwyntio ar fenywod mudol. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa rwystrau y mae menywod mudol yn eu hwynebu wrth geisio cael mynediad at wasanaethau a beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau y gall menywod mudol gael mynediad at wasanaethau sydd ag adnoddau llawn a hyfforddiant i ymdrin â normau ac arferion diwylliannol.

Ar gyfer y gwaith hwn, bydd y Pwyllgor yn defnyddio diffiniad bras o 'fenywod mudol' gan ei fod am wella ei ddealltwriaeth o’r materion a'u perthynas â'r cylch gorchwyl isod. Mae'r diffiniad hwn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol) y rhai sydd â statws mewnfudo parhaol neu dros dro, ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr heb eu dogfennu.

Gwahoddiad i gyfrannu i’r ymchwiliad

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei drafodaethau ar yr ymchwiliad. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, byddai’n ddefnyddiol cael eich sylwadau yn ymateb i’r cylch gorchwyl isod:

 

·         Profiadau menywod mudol o drais ac i ba raddau y mae normau ac arferion diwylliannol yn cyfrannu i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (e.e. anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, cam-drin ar sail anrhydedd).

·         Cwmpas gwasanaethau ac ymyriadau arbenigol sydd â digon o adnoddau a hyfforddiant i gefnogi goroeswyr o gymunedau mudol, gan gynnwys diwallu anghenion diwylliannol ac ieithyddol.

·         Ystyried y rhwystrau sy’n atal menywod a merched mudol yng Nghymru rhag cael mynediad at wasanaethau a rhwystrau ychwanegol a wynebir gan fenywod sydd â statws mewnfudo ansicr, neu y mae eu statws mewnfudo yn dibynnu ar briod neu gyflogwr neu’r rhai nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus.

·         A allai Llywodraeth Cymru gymryd camau i liniaru’r effaith anghymesur y mae polisi mewnfudo’r DU yn ei chael ar oroeswyr yng Nghymru a gwireddu ei dyhead mai ‘Cenedl Noddfa’ yw Cymru.

·         Effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ac a yw'r rhain yn llwyddo i dargedu cymunedau mudol a chodi ymwybyddiaeth yn eu plith.

·         Dull Llywodraeth Cymru o atal cychwynnol ac a wneir digon o ymdrech i atal trais cyn iddo ddigwydd drwy weithio gyda grwpiau cymunedol a ffydd allweddol ar lawr gwlad, yn ogystal ag ysgolion i herio normau ac arferion diwylliannol.

 

Dylai'r dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Iau 12 Mai 2022.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

Polisi dwyieithrwydd

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Fel rheol byddwn yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb yn eich rôl broffesiynol, bydd y fersiwn o’ch ymateb a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd/rôl os yw'n berthnasol, ac enw'ch sefydliad.

 

 

 

Manylion cyswllt

Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:

 

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Senedd Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1SN

E-bost: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru

Ffôn: 0300 200 6565

 

Yn gywir,

Text, letter  Description automatically generated

Jenny Rathbone AS

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.